Dod o hyd i’ch math o bensiwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:
- gwirio eich math o bensiwn
- darganfod os gallwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (personol neu gweithle) rydych chi’n dewis sut i gymryd eich arian - yna gallwch gael arweiniad am ddim am hyn gan un o’n arbenigwyr pensiwn.
Bydd angen i chi wirio bob pensiwn ar wahân os oes gennych fwy nag un.
Cyn i chi ddechrau
Mae’n rhaid i chi fod yn 50 neu drosodd i drefnu apwyntiad Pension Wise.
Gallwch gael help gyda Phensiwn y Wladwriaeth gan y Gwasanaeth Pensiwn.