A allaf gymryd arian allan fesul tipyn o fy nghronfa bensiwn?
Trosolwg
Gallwch gymryd symiau llai o arian allan o’ch cronfa bensiwn hyd nes ei fod yn rhedeg allan. Mae faint y byddwch yn ei gymryd a phryd byddwch yn ei gymryd i fyny i chi.
- Chi sy’n penderfynu faint i’w gymryd a phryd i’w gymryd.
- Nid yw eich swm o 25% di-dreth yn cael ei dalu mewn un lwmp swm - rydych yn ei gael dros gyfnod o amser.
- Bob tro y byddwch yn cymryd arian allan fesul tipyn mae 25% yn ddi-dreth ac mae’r gweddill yn drethadwy.
Mae rhai darparwyr pensiwn yn codi ffi i gymryd arian allan.
Nid yw pob darparwr yn cynnig yr opsiwn hwn. Os nad yw eich darparwr presennol yn ei gynnig, gallwch drosglwyddo eich cronfa i ddarparwr arall ond efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi.
Darganfyddwch os allwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim.
Gall cymryd swm mawr o arian allan o’ch cronfa olygu eich bod yn talu swm uwch o dreth.
Treth
Rydych yn talu treth pan fyddwch yn cymryd arian o’ch cronfa oherwydd eich bod yn cael rhyddhad treth pan fyddwch yn talu i mewn i’ch pensiwn.
Bydd yr arian y byddwch yn ei gymryd o’ch cronfa yn cael ei ychwanegu at unrhyw incwm arall sydd gennych ar gyfer y flwyddyn honno, er enghraifft taliadau Pensiwn y Wladwriaeth, budd-daliadau, llog o gynilion, cyflog. Gallai hyn olygu y byddai cymryd swm mawr o arian allan ar yr un pryd yn eich symud i gyfradd dreth uwch.
Os byddwch yn lledaenu’r symiau o arian dros fwy nag un flwyddyn dreth, efallai y byddwch yn talu llai o dreth arnynt.
Enghraifft Mae eich cronfa yn £60,000. Rydych yn cymryd allan £4,000 bob blwyddyn - £1,000 yn ddi-dreth a £3,000 yn drethadwy. Rydych yn gweithio rhan amser ac yn ennill £12,000 y flwyddyn. Mae cyfanswm eich enillion a’r arian trethadwy rydych wedi’i gymryd allan o’ch cronfa yn £15,000. Mae hyn yn uwch na’r Lwfans Personol safonol o £12,500. Rydych yn talu £500 mewn treth.
Bydd eich darparwr pensiwn yn tynnu’r dreth sy’n ddyledus gennych cyn iddynt dalu’r arian i chi.
Efallai y byddwch yn talu treth brys pan fyddwch yn cymryd arian allan o’ch cronfa, y gallwch ei hawlio’n ôl.
Os nad yw eich darparwr yn talu eich treth brys yn ôl yn awtomatig, gallwch ei hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EM.
Trefnwch apwyntiad Pension Wise yn rhad ac am ddim i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud gyda’ch cronfa.
Parhau i dalu mewn
Os oes gennych fwy nag un gronfa bensiwn, gallwch gymryd arian fesul tipyn o un a pharhau i dalu i mewn i rai eraill. Yr uchafswm y gallwch ei dalu mewn yw £4,000 y flwyddyn.
Mae hyn yn cynnwys eich rhyddhad treth o 20%. Er enghraifft, er mwyn cael cyfraniad o £10,000 byddai ond yn rhaid i chi dalu £8,000.
Efallai y bydd eich darparwr hefyd yn gadael i chi barhau i dalu i mewn i’r gronfa rydych yn cymryd arian allan ohonni.
Budd-daliadau
Gallai cymryd arian allan fesul tipyn o’ch cronfa hefyd effeithio ar eich hawl i unrhyw fudd-daliadau.
Sgiâmau
Byddwch yn ofalus o sgiâmau pensiwn yn cysylltu â chi yn annisgwyl am fuddsoddiad neu gyfle busnes nad ydych wedi siarad â hwy am o’r blaen. Gallech golli eich holl arian ac yn wynebu treth o hyd at 55% a ffioedd ychwanegol.