Cymerwch eich cronfa bensiwn cyfan ar yr un pryd
Trosolwg
Gallwch gymryd eich cronfa bensiwn cyfan fel arian parod.
- Rydych yn cymryd eich cronfa cyfan ar un tro.
- Mae 25% yn ddi-dreth, mae’r 75% arall yn cael ei drethu.
Rydych yn talu treth pan fyddwch yn cymryd arian allan o’ch cronfa. Mae hyn oherwydd pan fyddwch chi’n talu i mewn i’ch pensiwn rydych yn cael gostyngiad treth ar eich cyfraniadau.
Darganfyddwch os allwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim.
Gall cymryd swm mawr o arian allan o’ch cronfa olygu eich bod yn talu swm uwch o dreth.
Talu treth
Bydd eich darparwr pensiwn yn tynnu’r dreth sy’n ddyledus gennych cyn iddynt dalu’r arian i chi.
Bydd yr arian y byddwch yn ei gymryd allan yn cael ei ychwanegu at unrhyw incwm arall sydd gennych yn ystod y flwyddyn dreth, er enghraifft arian o’r gwaith, cynilion a budd-daliadau.
Efallai y byddwch yn talu treth brys pan fyddwch yn cymryd arian allan o’ch cronfa, y gallwch ei hawlio’n ôl.
Os nad yw eich darparwr yn talu eich treth brys yn ôl yn awtomatig, gallwch ei hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EM.
Trefnwch apwyntiad Pension Wise yn rhad ac am ddim i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud gyda’ch cronfa.
Budd-daliadau
Gallai cymryd swm mawr o arian allan o’ch cronfa bensiwn effeithio ar eich hawl i unrhyw fudd-daliadau.
Sgiâmau
Byddwch yn ofalus o sgiâmau pensiwn yn cysylltu â chi yn annisgwyl am fuddsoddiad neu gyfle busnes nad ydych wedi siarad â hwy am o’r blaen. Gallech golli eich holl arian ac yn wynebu treth o hyd at 55% a ffioedd ychwanegol.